Ynglŷn â

Cyflwyniad

Mae gan y tîm a grynhowyd gan BRO a Severn Wye ar gyfer y rhaglen hon flynyddoedd lawer o brofiad gyda chefnogi a gweithio â chymunedau, busnesau, awdurdodau lleol, y trydydd sector a Llywodraeth Cymru, yn enwedig ar brosiectau a mentrau parthed yr amgylchedd naturiol. Bu i BRO gynorthwyo Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol i ddatblygu’r rhaglen Crëwch Eich Man trwy ymchwil ac ymgysylltu helaeth â rhanddeiliaid, a bu Severn Wye yn hanfodol ar gyfer cynnal a chefnogi mentrau sylweddol, gan gynnwys y rhaglen Cynefin ac Ynni Bro.

Crëwch Eich Man

Roedd Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol yng Nghymru eisiau datblygu rhaglen ynghylch trawsffurfio mannau agored mewn modd cynaliadwy i’r amgylchedd, sy’n dod ag aelodau’r gymuned at ei gilydd ar draws pob sector.

Er mwyn goleuo a llunio’r rhaglen hon, bu iddynt gomisiynu’r Bartneriaeth BRO i gynnal astudiaeth gwmpasu â’r teitl gweithiol Trawsffurfio Mannau Agored. Amcanodd yr astudiaeth gasglu tystiolaeth gref o brosiectau a rhaglenni perthnasol yng Nghymru a ledled y byd, a chael cyfraniad rhanddeiliaid ac arbenigwyr er mwyn datblygu a chynnig modelau ar gyfer ei gyflawni.

Defnyddiodd Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol yng Nghymru ganlyniadau’r astudiaeth hon i ddatblygu’r rhaglen Crëwch Eich Man. Mae gan Crëwch Eich Man gyfanswm o £8.8 miliwn ar gael. Yn dilyn cylch ymgeisio agored a dderbyniodd rhagor na 60 cais, rhoddwyd hyd at £20,000 o nawdd i 16 o grwpiau i ddatblygu rhagor ar eu prosiectau (tros 10 mis) yn ail gan y rhaglen Crëwch Eich Man. Yn y rhaglen arloesol hon, darparodd y gronfa gefnogaeth i grwpiau i’w helpu i ymgysylltu’n effeithiol â’u cymunedau, a helpu datblygu cynlluniau busnes cadarn ar gyfer y rhaglen 7 mlynedd.

Yna dyfarnodd Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol arian i 6 chorff ledled Cymru. Ceir rhagor o wybodaeth am y prosiectau yn yr adran Prosiectau.

Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol

Mae’r Loteri Genedlaethol yn codi arian at achosion da. Mae pobl yn defnyddio’r arian hwn i wneud pethau rhyfeddol, gan arwain er mwyn helpu gwella eu bywydau a’u cymunedau. Pob tro y prynwch docyn Loteri Genedlaethol, rydych yn helpu peri i hyn ddigwydd..

Trwy Crëwch Eich Man, roeddem ni eisiau i gymunedau benderfynu sut i gadw a/neu wella eu hamgylchedd naturiol lleol mewn modd a wnaeth gwahaniaeth gwirioneddol iddynt hwy a chan ddiwallu anghenion cenedlaethau’r dyfodol.

Arian gan Lywodraeth Cymru

Welsh Government logo (white)

Dysgu a Chefnogaeth

CYS logo white

Gallwch ganfod rhagor am y timau Dysgu a Chefnogaeth yn ein gwefannau ni.

BRO logo      

Gwerthuso

OB3 Research Logo

Bu i Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol roi cytundeb cefnogaeth werthuso, hefyd, er mwyn helpu grwpiau i ddatblygu eu gallu a’u cynlluniau i werthuso eu gwaith. Mae OB3 yn gwneud hyn gyhyd ag y pery’r prosiect.

Cwlwm Seiriol

Ein Gardd Gefn

Roots to Shoots

Llwybrau Coetirol at Lesiant

Gweledigaeth Ynysybwl

Croeso i’n Coedwig