Mae Ynysybwl yn gyn-bentref glofaol gyda chymuned o ryw 5,500 yn swatio mewn cwm bach rhwng cymoedd Rhondda a Chynon. Y dirwedd ogylch y pentref, ac sy’n arwain oddi yno i goed Llanwynno, yw ein hased mwyaf.
Y Weledigaeth yw twristiaeth gynaliadwy ac ymgysylltu lleol â mwynderau’r pentref a’r dirwedd..
Trwy arian Crëwch Eich Man, mae Ynysybwl yn cael ei ail-ddychmygu’n lle sy’n gwm glas, cynaliadwy a hynod rwydweithiol gyda phwyslais ar asedau, busnesau a gweithgareddau ym mherchnogaeth y gymuned – Gweledigaeth ar gyfer y Cwm. Daw’r gadwyn hon o fwynderau a chyfleusterau â buddion enfawr i’r gymuned bresennol, ac yn denu rhagor o ymwelwyr a thwristiaid, gan gefnogi ein heconomi lleol.
Themâu sylfaenol y Weledigaeth yw: Gwirfoddoli a Stiwardiaeth; Ymgysylltu a Chynnwys; Hyfforddiant a Phrofiad Gwaith; Cyfleoedd Swyddi a Busnes; Cynhwysiant Digidol a Gweithgareddau Iach.
Cyflawnir y rhain trwy greu canolfan gymunedol y mae mawr ei hangen, datblygu mentrau cymunedol, adnewyddu ac ailwampio mwynder lleol a drysorir yn fawr, sef Pwll Butcher; canolfan ymwelwyr yn y goedwig; annog defnyddio mannau awyr-agored trwy wella llwybrau coedwig; hyrwyddo a chodi ymwybyddiaeth am yr amgylchedd presennol a’i fioamrywiaeth.
Pwy sydd â rhan?
Mae’r Weledigaeth yn cael ei chyflawni trwy bartneriaeth gref o gyrff cymunedol a busnesau lleol sy’n eistedd ar Grŵp Llywio’r Weledigaeth. Mae’r rhain yn cynnwys:
- Partneriaeth Adfywio Ynysybwl
- Canolfan Gweithgareddau Awyr Agored Daerwynno
- Roberttown Runners
- Ynysybwl Pony Club
- Friends of Butchers Pool
- TR Computer Solutions
- Kip Macgrath Pontypridd
Mae dolennau gweithiol ychwanegol â’r gymuned trwy:
- Y Cyngor Cymuned
- Ynysybwl Enterprise Partnership
- Ti a Fi
- Our Place
- Meddygfeydd lleol
- Cymdeithasau rhandiroedd
- Cerddwyr Cwm Clydach
- Trivallies
- Tai Wales & West
- Ysgol Gynradd Trerobert
- Ysgol Uwchradd Pontypridd
- Llwyddiant wrth drosglwyddo mwynder cymunedol Butcher’s Pool o CBSRhCT.
- Cwblhau datblygiad cyfalaf/ailwampio pwll padlo Butcher’s Pool, yn barod am ei agor yn ystod yr haf.
- Cytuno Llwybrau â Chyfoeth Naturiol Cymru, gan gynnwys llwybr beicio, llwybr marchogaeth a llwybr rhedeg. Lansio’r llwybr pentrefol “Llwybr y Pyllau Pysgod” â chefnogaeth myfyrwyr Prifysgol De Cymru.
- Trawsffurfiad PAY yn ganolfan wybodaeth / canolfan gymunedol fach, gan gynnwys amgueddfa fach, cyfnewidfa llyfrau, byrddau gwybodaeth ar gyfer gweithgareddau lleol a’r llwybrau.
- Datblygu gardd gymunedol â chymorth New Road Allotment Society, ac y mae hon wedi dod yn ganolfan ar gyfer Sied Dynion Ynysybwl.
- Trwy arian a gafwyd gan CNC, cwblhawyd prosiect rhagnodi cymdeithasol sydd wedi datblygu’n grwpiau gweithgaredd newydd, gan gynnwys Ynysybwl Strollers a Mini Strollers – grwpiau cerdded ar gyfer dechreuwyr llwyr.
- Mae ein tîm rygbi cerdded ni – Bwledi Ynysybwl – wedi cystadlu mewn gornest a gynhaliwyd yn Stadiwm Principality.
- Cwblhau’r Ganolfan Gweledigaeth y Goedwig sydd i’w darfod erbyn Mai 2020
- Parhau â gwaith ar ddatblygiad dichonol safle’r Ganolfan.
- Cwblhau adeilad Menter Ieuenctid a all fod yn sbardun ar gyfer rhagor o fentrau.
- Cwblhau’r tri llwybr newydd ag arwyddbyst yn y goedwig, a rhagor o lwybrau cerdded yn y pentref.
- Datblygu’r presenoldeb digidol trwy wefan newydd ac ap Gweledigaeth.