CWLWM SEIRIOL

Ynys Môn

GWEFAN – cliciwch yma

TRYDAR – @cwlwmseiriol

FACEBOOK – @CwlwmSeiriol

Datblygwyd prosiect Cwlwm Seiriol er mwyn creu cyfleoedd ar gyfer pobl sy’n byw yn Ward Seiriol yn ne-ddwyrain Môn i gysylltu â’r amgylchedd naturiol mewn ffyrdd buddiol i’w gilydd.
Diben y rhaglen yw galluogi cymunedau i beri newidiadau adeiladol a chynaliadwy i’w hamgylchedd naturiol lleol.

Gobeithia’r prosiect gyflawni’r canlynol erbyn 2023:

  • Bydd cymunedau Ward Seiriol yn teimlo’n fwy hyderus ac wedi ymroi mwy i reoli eu mannau gleision lleol.
  • Bydd mwy o gydlyniad o fewn cymunedau lleol, gyda phreswylwyr lleol, grwpiau cymunedol, tirfeddianwyr a busnesau â rhan weithredol yn y prosiect.
  • Bydd gan Ward Seiriol fannau agored sydd wedi’u llwyr adfer a’u rheoli, wedi’u cysylltu gan rwydwaith o goridorau cynefin a llwybrau.
  • Bydd cymunedau’n cael mwy o fudd o’u mannau agored mewn perthynas â llesiant corfforol a meddyliol.

Pwy sydd â rhan?

Prif bartner y prosiect yw Menter Môn. Mae Menter Môn yn fenter gymdeithasol sy’n gweithio ledled gogledd Cymru i gyflawni amrywiaeth o brosiectau adfer, amgylcheddol a diwylliannol er budd cymunedau lleol.

Mae dau bartner arall yn y prosiect, sef PONT a Choed Cymru. Mae PONT yn gweithio ag unigolion a chyrff i gyflwyno trefn bori ar gyfer bywyd gwyllt ar safleoedd unigol ac ar raddfeydd lleol a rhanbarthol.

Amcan Coed Cymru yw gwella tirweddau sy’n cynnwyd coed a choedwigoedd yng Nghymru. Mae eu gweithwyr yn darparu cyngor a chefnogaeth, mynediad at arloesedd a chymorth ariannol.

  • Sefydlu grŵp Cyfeillion Cwlwm Seiriol
  • Ffurfio grŵp gweithredu lleol yn Llandegfan
  • Gwirfoddolwyr wedi’u recriwtio ac â rhan weithredol mewn cyflawni gwaith rheoli ar 3 gwarchodfa natur leol
  • Sefydlu Gŵyl Goedlan a gynhelir pob blwyddyn ym Mawrth
  • Diwrnod Agored yn y goedwig yn Aberlleiniog – mae’r achlysur hwn wedi digwydd ddwywaith, yn 2018 a 2019
  • Mae gre o ferlod lled-wyllt Carneddau wedi’u prynu, gan eu defnyddio ar gyfer pori cadwraethol yn ardal y prosiect
  • Cynhaliwyd rhaglen Teithiau Iechyd 6-wythnos arloesol
  • Mae pobl leol wedi dysgu sut mae tocio coed brodorol a defnyddio’r helyg a’r cyll i wneud basgedi a chlwydi pleth
  • Mae gwirfoddolwyr wedi’u hyfforddi mewn medrau traddodiadol gan gynnwys gosod cerrig wyneb a defnyddio cryman
  • Cafwyd cyflwyniadau ynghylch pwysigrwydd peilliwyr ac ymylon ffyrdd
  • Cynhaliwyd “bio-gyrch”
  • Rhagor o gyflwyniadau – Gweirgloddiau Blodau Gwylltion, Cadwraeth Dyfrgwn a Llygod y Dŵr, prosiect Afonydd Menai
  • Rhagor o deithiau cerdded
  • Parhau â’r rhaglen gwaith cadwraeth
  • Rhaglen Iechyd a Llesiant Coetirol newydd
  • Cyrsiau hyfforddi mewn Cymorth Cyntaf a Choedwigaeth, Cynnal a Chadw Llif Cadwyn a Thrawstorri, Cynnal a Chadw Offer Torri Gwair a Llwyni
  • Ffurfio dau grŵp gweithredu lleol arall – Llanddona a Llangoed

Cwlwm Seiriol