Gwerthuso

Cyflwyniad

Mae tîm o gynghorwyr gwerthuso o OB3 Research ar gael i ddarparu cefnogaeth werthuso unswydd i grwpiau ar gyfer y rhaglen Crëwch Eich Man.

Tros y pymtheg mlynedd diwethaf, mae OB3 wedi darparu gwerthuso, ymchwil cymdeithasol a gwasanaethau cynghori ar gyfer amrywiaeth eang o gyrff cyhoeddus, preifat a thrydydd sector. Maent wedi darparu gwasanaethau cefnogi ymgeiswyr a deiliaid cymhorthdal ar sawl rhaglen a noddwyd gan y Loteri Genedlaethol, gan gynnwys BIG Innovation yng Nghymru, ac wedi darparu cefnogaeth hunanwerthuso at gyfer deiliaid cymhorthdal Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol (Cronfa’r Loteri Fawr, yr adeg honno) then the Big Lottery Fund) yng Nghymru rhwng 2012-2015. Mae OB3 yn brofiadol iawn wrth gynllunio methodolegau gwerthuso, gan wneud ymchwil ansoddol a meintiol hyd safonau Ymchwil Cymdeithasol y Llywodraeth (YCLl), gan gynllunio damcaniaethau newid a modelau rhesymeg, a darparu cyngor technegol ynghylch cynllunio prosiectau a rhaglenni, datblygu a hunan-werthuso.

Er mwyn canfod rhagor am y tîm yn OB3, ymwelwch â’u gwefan: www.ob3research.co.uk

Cefnogaeth Werthuso Cyfnod Sylfaen

Gall prosiectau yn y cyfnod hwn ddefnyddio ein hamser i drafod a chael cyngor ynghylch:

  • Cynllunio eich gweithgaredd arolygu a gwerthuso
  • Datblygu a defnyddio tystiolaeth sylfaenol er mwyn helpu dangos pa wahaniaeth y bydd eich prosiect yn ei wneud
  • Dulliau, cyfarpar a thechnegau addas ar gyfer casglu tystiolaeth werthuso
  • Dangosyddion addas ar gyfer mesur perfformiad ac effaith eich prosiect
  • Cyfleoedd i gysylltu dangosyddion prosiect ag ystod o’r dangosyddion y mae Llywodraeth Cymru wedi’i datblygu ar gyfer Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru).

Unedau Gwerthuso Cryno

Ceir isod gyfres o ddogfennau byrion, rhagarweiniol ynghylch amryw bynciau gwerthuso sy’n berthynol i’r rhaglen Crëwch Eich Man. Gobeithiwn y byddant o ddefnydd i bob ymgeisydd wrth iddynt ddatblygu eu syniadaeth yn ystod y Cyfnod Sylfaen.

Mae’r unedau hyn ar gael i’w lawrlwytho trwy glicio’r dolennau isod.

1. Beth yw gwerthuso?

2. Gosod sylfaen

3. Dangosyddion

4. Arolygu Gweithgaredd ac Asesu Perfformiad

5. Cyfarpar a Thechnegau Gwerthuso

6. Rhannu’r Dysgu

7. Rhestr Wirio Gwerthuso

8. Canlyniadau a Dangosyddion

Dymuna OB3 fod yn hyblyg eu hagwedd, ac ymateb i anghenion prosiectau, felly os oes gennych bynciau penodol sy’n ymwneud â gwerthuso ac yr hoffech weld rhoi sylw iddynt yn un o’r unedau hyn, cysylltwch â ni trwy yrru e-bost at: heledd@ob3research.co.uk