Damcaniaeth Newid

Mae Damcaniaethau Newid yn fethodoleg o fath penodol ar gyfer cynllunio, cyfranogi, a gwerthuso y gellir ei defnyddio i hyrwyddo newid cymdeithasol. Mae o gymorth i ddiffinio nodau tymor hir ac yna’n mapio at yn ôl er mwyn adnabod rhag-amodau angenrheidiol a chamau y mae eu hangen i beri newid. Mae’n swnio’n gymhleth, ond rhowch gynnig arni: gall fod o gymorth mawr i chi fod yn sicr fod y prosiect rydych yn ei gyflawni am esgor ar y newid y mae arnoch eisiau ei gyflawni.

Centre for Change Theory

Mae’r Centre for Change Theory yn gorff dielw a sefydlwyd er mwyn hyrwyddo safonau ansawdd ac arfer gorau ar gyfer datblygu a gweithredu Damcaniaeth Newid. Mae gan eu gwefan lwythi o wybodaeth ddefnyddiol ynghylch Damcaniaeth Newid. Mae hefyd yn rhoi mynediad am ddim at ei feddalwedd TOCO sy’n caniatáu i chi gynllunio a golygu eich Damcaniaeth Newid, dysgu cysyniadau Damcaniaeth Newid, a chofnodi eich canlyniadau, dangosyddion, rhesymweithiau a’ch rhagdybiaethau mewn amgylchedd graffigol rhyngweithredol.

Learning for Sustainability

Mae gwefan Learning for Sustainability yn darparu cyfeiriadur adnoddau ar-lein ar gyfer y sawl sy’n gweithio i gefnogi dysgu cymdeithasol a gweithredu adeiladol. Mae ganddynt fodel Damcaniaeth Newid syml ar eu gwefan, yn ogystal â llawer o adnoddau lawrlwythadwy i’ch helpi i fynd i’r afael â Damcaniaeth Newid.

Blog defnyddiol oddi wrth Oxfam

Yn 2013 ysgrifennodd Oxfam flog defnyddiol ynglŷn â Damcaniaeth Newid i helpu pobl i ddeall yr hyn yw, a sut i’w ddefnyddio.