Astudiaeth Trawsffurfio Mannau Agored

Yn Ebrill 2015, clustnododd Cronfa Loteri Genedlaethol Cymru arian ar gyfer rhaglen ddichonol newydd i’w datblygu ynghylch trawsffurfio mannau agored mewn modd cynaliadwy gan yr amgylchedd sy’n dwyn ynghyd aelodau cymuned ar draws pob sector. Er mwyn goleuo a llunio’r Rhaglen ddichonol hon, gyda’r teitl gweithiol Trawsffurfio Mannau Agored, bu iddynt gomisiynu Partneriaeth BRO i gynnal astudiaeth gwmpasu.

Amcanodd yr astudiaeth gasglu tystiolaeth gadarn o brosiectau a rhaglenni perthnasol yng Nghymru a ledled y byd, a chael cyfraniad rhanddeiliaid ac arbenigwyr er mwyn datblygu a chynnig modelau ar gyfer ei chyflawni.

Adnabu’r astudiaeth arfer da a gwersi a ddysgwyd trwy’r ymchwil, ac fe’i distyllwyd yn ystod o egwyddorion allweddol sy’n hanfodol i lwyddiant prosiectau cymunedol ac amgylcheddol trawsffurfiol, sef:

  • Ymgysylltu â’r Gymuned a’i Chynnwys mewn modd Ystyrlon – Cyfranogiad Pwrpasol
  • Partneriaeth a Chydweithio Tryloyw a Chadarn
  • Penderfynu’n Ddoeth ar Sail Tystiolaeth
  • Adnabod Anghenion a Chyfleoedd
  • Ymagweddu Cyfannol at Gyflawni Buddion Lluosog mewn Modd Cydlynol
  • Creu Cysylltedd
  • Cydweddu â Rhaglenni a Mentrau Ehangach ac Ychwanegu Atynt
  • Cynllunio Strategol, Amserlenni Effeithiol a Chyflawni Fesul Cam
  • Hyblygrwydd mewn Ariannu a Chyflawni
  • Sicrhau Cynaliadwyedd yn y Dyfodol
  • Cefnogaeth Effeithiol ar gyfer Dysgu a Chyflawni
  • Gweithwyr Gwybodus Ymroddedig
  • Arolygu a Mesur Canlyniadau ac Effaith mewn Modd Arloesol

Gellir lawrlwytho’r ddogfen gryno yma.

Am y ddogfen lawn, cysylltwch â BRO yn bro@bro.cymru os gwelwch yn dda.